TeamPride - Cymru
Yn hyrwyddo cydraddoldeb i gefnogwyr a chwaraewyr LHDT ym maes chwaraeon.
Mae TeamPride yn gonsortiwm o 10 cwmni sydd wedi ymrwymo i wneud chwaraeon yn gêm i bawb. TeamPride ydi adidas, Aon, Aviva, Barclays, eBay, Manchester United, ASOS, Premier League, Sky Sports a Visa. Rhain sy’n gwneud Lasys Enfys yn bosib trwy:
-
Noddi’r ymgyrch Lasys Enfys
-
Buddsoddi arbenigedd ac arweiniad strategol
-
Cysylltu gyda sefydliadau a chyrff arweinyddion chwaraeon
-
Creu tîm o gefnogwyr Lasys Enfys trwy eu rhwydwaith staff a chwsmeriaid
Mae Aon yn falch o fod yn rhan o TeamPride ac rydw i'n gwbl grediniol fod gan y grŵp y gallu i ddylanwadu'n fawr ar y diwydiant chwaraeon. Mae llawer o waith yn dal i'w wneud cyn y gall pob unigolyn LHDT+ fyw yn rhydd a bod yn nhw eu hunain. Mae chwaraeon yn ein huno ni i gyd ac mae TeamPride ac Stonewall wedi ymrwymo i wneud chwaraeon yn gêm i bawb drwy godi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb LHDT+ yn ystod mis Tachwedd.
Jim Herbert, Noddwr Gweithredol LHDT, AON
Fel rhan o’i hymrwymiad i chwaraeon lawr-gwlad, TeamPride ydi prif noddwyr o’r clwb pêl droed mwyaf llwyddiannus LHDT, Stonewall FC, sy’n chwarae yng nghynghrair FA Middlesex County, cynghrair London Unity a chwpan GFSN.