Gweithdai digidol
Mae gweithdai Stonewall yn rhoi cyfle i fynychwyr ddysgu'r arferion gorau diweddaraf. Maen nhw wedi cael eu llunio gan ddefnyddio'r arbenigedd rydyn ni wedi'i gael o weithio gyda dros 900 o gyflogwyr blaenllaw yng ngwledydd Prydain a ledled y byd.
Rydyn ni'n defnyddio agwedd sy'n grymuso ar gyfer ein holl sesiynau dysgu. Mae'r gweithdai yn rhyngweithiol iawn ac yn cyfuno tasgau ymarferol a rhannu gwybodaeth er mwyn gweddu i wahanol arddulliau dysgu. Rydyn ni'n credu'n gryf bod unigolion yn creu diwylliannau mwy cynhwysol wrth i fynychwyr rannu eu profiadau a'u syniadau, fel bod pawb yn gadael gyda ffyrdd ymarferol o wneud gwahaniaeth yn eu swydd.
Bydd ein dewis o weithdai rhagarweiniol yn eich helpu i adeiladu sylfaen gref yn eich sefydliad. Maen nhw'n rhoi cyfle gwerthfawr i ymgysylltu ac addysgu'r holl staff. I'r rhai sy'n arwain ar gynhwysiant LHDT, byddan nhw'n cynnig syniadau ymarferol i ddatblygu cynllun gweithredu sy'n gweithio.
Mae ein gweithdai uwch yn mynd yn ddyfnach i mewn i bynciau penodol. Bydd rhai sesiynau, gan gynnwys y rhai ar iechyd meddwl LHDT, yn addysgu eich staff ymhellach, tra bydd rhai eraill yn cynnig fframwaith i dimau ddysgu a chynllunio mewn pynciau penodol fel darparu gwasanaethau neu gefnogi cydweithwyr.
Gweithdai Rhagarweiniol
Camau cyntaf delfrydol ar eich taith tuag at gynhwysiant LHDT neu ffordd wych o ymgysylltu â'r sefydliad ehangach
- Y camau cyntaf tuag at gynhwysiant LHDT
-
Nodau'r sesiwn:
- Dysgu mwy am effaith cynhwysiant LHDT yn y gweithle
- Deall y camau ymarferol y gall sefydliad eu cymryd i fod yn fwy cynhwysol o bobl LHDT
- Trafod sut i weithredu hyn yng nghyd-destun eich sefydliad chi
Perffaith ar gyfer:
Y rhai sy'n gweithio'n agosach ar gynhwysiant LHDT, e.e. swyddogion proffesiynol ym maes adnoddau dynol neu amrywiaeth a chynhwysiant, hyrwyddwyr ar lefel uwch, grwpiau rhwydwaith LHDT mwy newydd.
- Y camau cyntaf tuag at gynhwysiant traws
-
Nodau'r sesiwn:
- Dysgu mwy am hunaniaethau, terminoleg a phrofiadau pobl draws er mwyn gallu mynegi'r angen am gynhwysiant traws yn hyderus
- Deall mwy am ffyrdd ymarferol o greu gweithle lle gall pob person traws gyflawni eu potensial
- Ystyried sut gallech chi gamu i fyny a bod yn gynghreiriad gwell i bobl draws yn y gwaith
Perffaith ar gyfer:
Yr holl staff, grwpiau rhwydwaith sy'n ei chael hi'n anodd denu pobl draws, timau adnoddau dynol ac amrywiaeth a chynhwysiant. Ffordd ddelfrydol o lansio polisïau trawsnewid yn y gwaith.
- Cyflwyniad i fod yn gynghreiriad
-
Nodau'r sesiwn:
- Datblygu dealltwriaeth o hunaniaethau a phrofiadau LHDT er mwyn gallu eiriol yn hyderus dros gael gweithleoedd mwy cynhwysol
- Deall pam mae cynhwysiant LHDT yn y gwaith yn bwysig a manteision creu diwylliant mwy cynhwysol i unigolion a sefydliadau
- Archwilio ystyr y term cynghreiriad a nodi'r camau cyntaf i'w cymryd i fod yn gynghreiriad mwy egnïol a gweladwy
Perffaith ar gyfer:
Yr holl staff i ddysgu am eu rhan nhw yn y gwaith o greu sefydliad mwy cynhwysol.
- Hyrwyddo cynhwysiant LHDT fel uwch arweinydd
-
Nodau'r sesiwn:
- Datblygu dealltwriaeth o hunaniaethau a phrofiadau LHDT er mwyn gallu eiriol yn hyderus dros gael gweithleoedd mwy cynhwysol
- Deall y rhan mae uwch arweinwyr yn ei chwarae yn y gwaith o greu amgylcheddau cynhwysol
- Trafod sut gallwch chi fel tîm arwain gymryd camau ymarferol i wneud eich sefydliad yn fwy cynhwysol
Perffaith ar gyfer:
Uwch arweinwyr, hyrwyddwyr ar lefel uwch, timau arwain neu fyrddau.
Gweithdai uwch
Ffyrdd gwych o ddatblygu eich timau cynhwysiant neu o sicrhau bod eich tîm staff ehangach yn dysgu rhagor
- Cyflwyno gwasanaethau cynhwysiant LHDT
-
Nodau'r sesiwn:
- Deall sut i gasglu a monitro data ynghylch profiadau ac anghenion defnyddwyr gwasanaethau LHDT
- Dysgu rhagor am rwystrau cyffredin sy'n atal pobl LHDT rhag ymgysylltu â gwasanaethaul
- Trafod sut i ymgorffori cynhwysiant LHDT yn y ffordd rydych chi'n darparu gwasanaethau a sicrhau bod eich gwasanaethau'n dal i ymateb i'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu
Perffaith ar gyfer:
Timau adnoddau dynol ac amrywiaeth a chynhwysiant neu'r rhai sy'n arwain timau dylunio gwasanaethau neu dimau darparu gwasanaethau.
- Caffael: ymgorffori LHDT yn eich cadwyn gyflenwi
-
Nodau'r sesiwn:
- Deall buddion busnes sicrhau bod eich cyflenwyr yn LHDT-gynhwysol
- Archwilio sut i ymgorffori cynhwysiant LHDT yn y broses gaffael a chefnogi cyflenwyr i wella eu gweithleoedd a'u gwasanaethau
- Dysgu mwy am sut i hyfforddi'ch timau caffael a darparu'r adnoddau ymarferol iddynt i sicrhau safonau cyson uchel ymhlith cyflenwyr
Perffaith ar gyfer:
Timau adnoddau dynol ac amrywiaeth a chynhwysiant, rheolwyr swyddfa, timau caffael.
- Bod yn gynghreiriad gwell i bobl groenliw LHDT
-
Nodau'r sesiwn:
- Deall mwy am brofiadau Pobl Groenliw LHDT yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd
- Trafod rhyngblethu a braint, eu hystyr yn ymarferol a sut maen nhw'n effeithio ar brofiadau pobl yn y gwaith
- Datblygu syniadau i gamu i fyny fel cynghreiriad i Bobl Groenliw LHDT a sicrhau bod eich gwaith yn gynhwysol
Perffaith ar gyfer:
Yr holl staff. Arbennig o ddefnyddiol ar gyfer grwpiau rhwydwaith LHDT, ac yn gyfle gwych i gydweithio â grwpiau rhwydwaith pobl Dduon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig (BAME)
- Iechyd meddwl LHDT: cefnogi'ch cydweithwyr
-
Nodau'r sesiwn:
- Deall mwy am brofiadau pobl LHDT o les a iechyd meddwl
- Trafod y rhwystrau sy'n atal sgyrsiau rhag digwydd a gweithio ar sicrhau bod iechyd meddwl yn cynnwys pobl LHDT
- Archwilio ffyrdd ymarferol o adlewyrchu a chefnogi profiadau pobl LHDT yn eich gwaith iechyd meddwl
Perffaith ar gyfer:
Yr holl staff. Arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rhai sy'n gweithio ar fentrau iechyd meddwl ac ar gyfer grwpiau rhwydwaith LHDT
- Creu sefydliad sy'n gynhwysol o bobl ddeurywiol
-
Nodau'r sesiwn:
- Deall hunaniaethau deurywiol a datblygu'r hyder i fynegi'r angen i gynnwys pobl ddeurywiol yn y gweithle ac i'w gwneud yn weladwy
- Magu dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu pobl ddeurywiol yn y gwaith a'r effaith maen nhw'n gallu ei chael
- Archwilio ffyrdd ymarferol o gymryd camau i wneud eich gwaith presennol yn gynhwysol o bobl ddeurywiol gan ymgymryd â gwaith deurywiol-benodol
Perffaith ar gyfer:
Yr holl staff. Arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rhai sy'n gweithio ar fentrau cynhwysiant deurywiol ac ar gyfer grwpiau rhwydwaith LHDT
Cyflwyno
Cyflwynir y sesiynau ar-lein gan hwylusydd hyfforddedig o Stonewall.
Fel arfer, caiff y sesiynau eu cyflwyno ar Zoom ar gyfer hyd at 50 aelod o staff, heblaw am Hyrwyddo cynhwysiant LHDT fel uwch arweinydd sydd wedi'i gyfyngu i 12.
Cyflwynir y sesiynau ar Zoom ac mae rhai sesiynau'n defnyddio offer eraill fel Mural a Sli.do er mwyn ennyn diddordeb cyfranogwyr. Gallwn fod yn hyblyg ar y llwyfannau rydyn ni'n eu defnyddio ac fe wnawn ni weithio gyda chi i ddarparu sesiynau mewn ffordd sy'n adlewyrchu'ch systemau lle bo hynny'n bosib ac yn gweithio i'ch staff.
Mynychwyr
Mae Gweithdai Digidol yn ffordd wych o ymgysylltu, sydd wedi'u dylunio ar gyfer yr holl staff. Maen nhw'n arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sy'n gweithio'n agos ar gynhwysiant LHDT, hyrwyddwyr ar lefel uwch a grwpiau rhwydwaith LHDT.
Rydyn ni eisiau clywed gan weithwyr proffesiynol o amrywiaeth o weithleoedd. Rydyn ni'n annog amrywiaeth ar draws ein rhaglenni, o ran cefndiroedd ethnig, pobl â ffydd, pobl anabl a menywod - a'r rhai lle mae'r hunaniaethau yma'n rhyngblethu.
Archebu
Gweithdai Digidol Mewnol
Rydyn ni'n cynnig rhaglenni mewnol ar gyfer grwpiau o staff o sefydliad. E-bostiwch empowerment@stonewall.org.uk i archebu nawr neu i gael rhagor o wybodaeth.
Costau
Safonol: £900
Aelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth y Sector Preifat: £750
Aelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector: £550
Nid yw'r prisiau hyn yn cynnwys TAW.
Rydyn ni'n cynnig gostyngiadau pellach i elusennau ac i rai sy'n gwneud sawl archeb. Anfonwch e-bost aton ni drwy empowerment@stonewall.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Gweithdai Digidol Agored
We have 3 open workshops happening in the next few months.
Follow the links to book your place
October: Being a better ally to LGBT people of colour I 29th October BOOK HERE
November: First steps to trans inclusion I 18th November BOOK HERE
February: Introduction to LGBT allyship I 3rd February BOOK HERE
Costs
Standard: £70
Private Sector Diversity Champion members: £60
Public and Third Sector Diversity Champion members: £40
Student/unwaged: £10
Cancellation policy
Please see our cancellation policy here.